
DYFODOL I’R IAITH
SYLWADAU AR GYFER:
Ymchwiliad Gwaddol gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Ionawr 2021
Cyswllt:
Ruth Richards
Prif Weithredwr
01288 811 798
07879 529180
Dyfodol i’r Iaith
Mae Dyfodol i’r Iaith yn fudiad amhleidiol sy’n gweithredu er lles yr iaith Gymraeg. Nod y mudiad yw dylanwadu drwy ddulliau cyfansoddiadol ar sylwedd a chynnwys polisïau cyhoeddus a deddfwriaeth er mwyn hybu twf a ffyniant y Gymraeg ym mhob maes polisi. Bydd yn gweithredu er budd Cymru a’i phobl, gan ennill cefnogaeth a pharch i’r iaith a sicrhau bod y Gymraeg yn fater byw ar yr agenda gwleidyddol.
Carwn ddiolch i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ac i’r Cadeirydd dros dro am y gwahoddiad hwn i gyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor wrth i’r Senedd ystyried trefniadau’r pedair blynedd ddiwethaf ac edrych ymlaen at y 6ed Sesiwn. Gobeithiwn bydd y pwyntiau isod o gymorth i’r Pwyllgor wrth ystyried gwersi’r gorffennol ac anghenion y dyfodol.
· Manteisiwn ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Pwyllgor am ei waith ac am ei barodrwydd i ymgynghori ar ddatblygu’r gwaith at y dyfodol
· Carwn fynegi ein hawydd fel mudiad i ehangu a datblygu ein cysylltiad â’r Pwyllgor. Byddwn yn falch iawn o gael manteisio ar bob cyfle posib, nid yn unig i gyfrannu at ei drafodaethau, ond hefyd i awgrymu a chychwyn trafodaethau o’r newydd, yn enwedig ar feysydd sy’n ymwneud ag egwyddorion a syniadaeth Cynllunio Ieithyddol, sef y ddisgyblaeth a gredwn sy’n allweddol i sicrhau twf y Gymraeg.
· Wrth i waith Prosiect 2050 ddatblygu dros y Senedd nesaf, credwn fod gan y Pwyllgor rôl allweddol o safbwynt craffu ar ddatblygiad y gwaith a chadw golwg fanwl ar bob agwedd o’r agenda. Os nad yw’n bodoli’n barod, yna’n sicr dylid sefydlu cyswllt agos rhwng amserlenni ac agendâu’r Prosiect a’r Pwyllgor er mwyn sicrhau’r gorau o’r trefniant hwn.
· Yn yr un modd, rhaid cydnabod bod y Gymraeg yn destun sy’n berthnasol i holl waith y Senedd, ac unwaith eto, byddwn yn awgrymu bod y Pwyllgor yn cadw trosolwg cynhwysfawr o weithgaredd holl adrannau’r Llywodraeth. Byddai hyn yn sicrhau na chollir cyfle i graffu’r cyswllt allweddol rhwng y Gymraeg a’r economi, er enghraifft, neu’r Gymraeg a datblygu neu anghenion tai ayb. Credwn fod angen ymateb llawer mwy holistaidd i anghenion a pholisïau’r Gymraeg, ac yn sicr, byddai’n werthfawr petai’r Pwyllgor yn gallu craffu ar ymrwymiad a chyfraniad holl adrannau’r Llywodraeth tuag at waith Prosiect 2050.
· Yn ogystal â chryfhau’r cysylltiad gyda Phrosiect 2050 a chraffu’r cyfraniad gwahanol adrannau i agenda’r iaith, bydd angen sicrhau digon o hyblygrwydd i’r Pwyllgor hefyd allu ymateb i unrhyw faterion sy’n codi mewn perthynas â’r Gymraeg.
· Os na wneir hynny’n barod, yna byddai’n werthfawr i’r Pwyllgor adrodd ar ei argymhellion mewn perthynas â’r Gymraeg: faint sy’n cael eu gweithredu a pha gamau penodol a gymerir.
· Dros gyfnod y pandemig, gwerthfawrogwn y cyfleoedd a roddwyd i ymateb yn electroneg a/neu’n rhithwir i waith y Pwyllgor. Hyd yn oed pan y bydd hi’n bosib cwrdd wyneb-i-wyneb drachefn, byddwn yn parhau i werthfawrogi’r dewis o gyfathrebu’n rhithwir. I fudiadau fel Dyfodol, mae dewis o’r math yn arbediad sylweddol o safbwynt costau ac amser swyddogion.
Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’r Pwyllgor dros gyfnod nesaf y Senedd, a gobeithiwn yn fawr y cawn gyfle i cryfhau ac ehangu ein cyswllt gyda’r aelodau a swyddogion.